|
|
Ffôn: + 44 (0)1686 650625 holi@gwasg-gregynog.co.uk |
![]() |
|
|
|||
Llyfrau a phrintiau cain: |
Gwasg Gregynog![]() Yn ogystal â chreu llif cyson o gyfrolau arbennig o ddeniadol yn Gymraeg a Saesneg dros ran helaeth o’r canmlynedd diwethaf, fel a welir wedi’u rhestru yn ein Siop a Chatalog arlein, mae Gwasg Gregynog wedi cyfrannu i binaclau diwylliant a bywyd Cymru. Comisiynwyd y Wasg i baratoi ac argraffu’r ddogfen agoriadol a ddefnyddiwyd yn ystod Agoriad Swyddogol Cynulliad Cenedlaethol i Gymru yn 1999. I ddathlu’r achlysur hwn, yr offeryn cyntaf o lywodaeth i Gymru ers dros 600 mlynedd, argraffwyd 250 copi ar bapur Zerkall wedi’i wneud mewn mowld, ac wedi’i rwymo â llaw mewn lliain llawn, wedi’i flocio mewn aur a’i gyflwyno mewn cas cadw. Yn 2005 rhwymodd y Wasg y gerdd gomisiwn a gainlythrenwyd yn arbennig ar gyfer dathlu cartref parhaol y Cynulliad, sef Y Senedd, yng Nghaerdydd. Yn 2002 cyhoeddodd Gwasg Gregynog un o’r cyfrolau diweddar mwyaf poblogaidd iddi ei gyhoeddi erioed, sef Cutting Images. Mewn llai na thair wythnos gwerthwyd yr holl gopiau o’r llyfr hwn a oedd yn argraffiad cyfyngedig yn cynnwys mwy na hanner cant o doriadau leino gan Syr Kyffin Williams, un o brif arlunwyr Cymru. Hefyd yn yr un flwyddyn cynhyrchwyd cyfieithaid newydd gan Johann Wolfgang o farddoniaeth Goethe i ddathlu achlysur 250 mlynedd geni’r bardd adnabyddus, ac hefyd i ddathlu 600 mlynedd geni Johann Gutenburg, un o enwau mawr y byd argraffu. Ymysg y llyfrau diweddar a gynhyrchwyd gan Wasg Gregynog mae Pennant and his Welsh Landscapes, sef detholiad o gyfrol Thomas Pennant, Tours of North Wales. Darluniwyd y gyfrol hon gydag ugain o doriadau pren wedi’u creu gan Rigby Graham. Ef hefyd a gynlluniodd y rhwymiad hardd ar gyfer y gyfrol, ac er fod y llyfr wedi llwyr werthu erbyn hyn, mae rhai printiau allan o’r gyfrol yn dal i fod ar werth ar ein Siop arlein. Mae Of a Feather, prif gyhoeddiad Gwasg Gregynog ar gyfer 2008, yn gyfuniad hynod hardd o destun ac engrafiadau pren cain gan yr artist Colin See-Paynton, a safonnau argraffu a rhwymo enwog Gwasg Gregynog. Gyda’r rhagair wedi’i lunio gan y naturiaethwr enwog, Syr David Attenborough, y mae’r golygiad cyfyngedig hwn o 150 copi yn un o’r prosiectau mwyaf uchelgeisiol i’r Wasg erioed ymgymryd ag ef. ![]() Mae manylion llawn y cyhoeddiadau uchod a llawer mwy i’w gweld yn ein Catalog ac ar ein Siop arlein. Gwasg Gregynog: y bobl y tu ôl i’r wasg. StatwsMae Gwasg Gregynog yn gwmni cyfyngedig gan warant, wedi gofrestru yng Nghymru, rhif 01385327 Swyddfa gofrestredig: GWASG GREGYNOG LIMITED, GREGYNOG, Y DRENEWYDD, POWYS SY16 3PW Mae Gwasg Gregynog yn elusen gofrestredig, rhif 1090060 |