Ffôn: + 44 (0)1686 650625
english

Llyfrau a phrintiau cain:
cynghanedd celf a chrefft

Crefftwyr ac artistiaid yn defnyddio technegau traddodiadol i greu llyfrau hardd.

Mae'ch basged yn wag

Catalog

Dangos: Llyfrau   Dangos: Printiau   Dangos: Amrywiol   

Emynau Morgan Rhys

Wedi'u dethol ynghyd â rhagymadrodd gan D.SIMON EVANS.

Wedi'u darlunio gan RHIAN M.DAVIES

Cyfrifir MORGAN RHYS (1716-79) yn un o brif emynwyr Cymru, yn un y gellir yn deilwng ei enwi yng nghwmni William Williams, Pantycelyn ac Ann Griffiths. Yng Nghil-y-cwm ei febyd ac yn Llan-fynydd ei aeddfedrwydd yfodd yn drwm o frynhonnau ysbrydol y mudiad Methodistaidd, a dylanwadodd ar bobl trwy ei ddysgu yn yr ysgolion cylchynol a thrwy ei emynau. Cyhoeddwyd y rhain mewn sawl llyfryn rhwng 1755 ac 1775, ac fel yr awgryma teitl y casgliad cyntaf, Golwg o Ben Nebo ar Wlad yr Addewid, eu nodweddion pennaf yw angerdd, dwyster, a gorfoledd afieithus.

Ceir yn y gyfrol hon ddeugain o emynau Morgan Rhys, wedi'u dethol ynghyd â rhagymadrodd gan y diweddar Athro D. Simon Evans, un o brif ysgolheigion y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif, a brodor o blwyf Llanfynydd.

Y mae'r gyfrol wedi'i harddu â lluniau gan Rhiain M. Davies, y gwelwyd ei gwaith eisoes yng nghyfrolau Gwasg Gregynog o waith Pantycelyn ac Ann Griffiths.

MANYLION YR ARGRAFFIAD

Cyfyngedig i dri chant a hanner o gopiau rhifedig wedi eu cysodi mewn teip Baskerville 'Monotype' a'u hargraffu mewn dau liw ar bapur mowld Zerkall. 96 tudalen, 170 x 260 mm.

Copiau 1-250 wedi eu rhwymo mewn chwarter lliain, bandiau ar y pen a'r cwt. Cyflwynwyd mewn cas.

Copiau i-c wedi eu gwnio a llaw ac yn cynnwys bandiau sidan ar y pen a'r cwt. Fe'u rhwymwyd a llaw mewn chwarter lledr a byrddau cynfas, a'u cyflwyno mewn cas.

Pris: £270 (Qtr.Leather)
Ychwanegu i'ch basged
£150 (Cloth)
Ychwanegu i'ch basged
£75 (Unbound)
Ychwanegu i'ch basged
.

Tudalennau enghraifft: cliciwch ar ddelwedd am fersiwn fwy.