Ffôn: + 44 (0)1686 650625
english

Llyfrau a phrintiau cain:
cynghanedd celf a chrefft

Crefftwyr ac artistiaid yn defnyddio technegau traddodiadol i greu llyfrau hardd.

Mae'ch basged yn wag

Catalog

Dangos: Llyfrau   Dangos: Printiau   Dangos: Amrywiol   
Title page - Of a Feather

Title page - Of a Feather

Of A Feather

Avian Collective Nouns & Terms of Assembly, Group Names & Associated Terms

Ysgrifenwyd, crynhowyd, dyluniwyd a darluniwyd gan Colin See-Paynton

gyda Rhagair gan David Attenborough



Mae Of a Feather, prif gyhoeddiad Gwasg Gregynog ar gyfer 2008, yn gyfuniad hynod hardd o destun ac engrafiadau pren cain gan yr artist Colin See-Paynton, a safonnau argraffu a rhwymo enwog Gwasg Gregynog. Gyda’r rhagair wedi’i lunio gan y naturiaethwr enwog, Syr David Attenborough, y mae’r golygiad cyfyngedig hwn o 150 copi yn un o’r prosiectau mwyaf uchelgeisiol i’r Wasg erioed ymgymryd ag ef.


Llyfr hynod ddifyr yn sôn am adar yw Of a Feather. Mae’n rhestru yn Saesneg, ymhlith pethau eraill, enwau llusosg ac enwau torfol nifer fawr o adar gwlad a thref gwledydd Prydain. Mae rhai o’r enwau hyn yn gyfarwydd i bawb ac yn gyffredin ar lafar gwlad. Mae eraill yn llawer llai adnabyddus ac, yn anffodus, yn prysur ddiflannu o’n iaith bob dydd erbyn hyn. Mae’r darluniau du a gwyn hardd o waith Colin See-Paynton yn mynegi holl ogoniant yr adar yn mae’n ymdrin a hwy, a hynny mewn modd hynod sensitif. Mae ei feistolaeth o’i grefft yn peri fod yr adar yn ymddangos fel petaent, ambell waith, yn dod yn fyw ar y dudalen.

Mae cyhoeddi Of a Feather yn wir yn bluen fawr newydd yn het Gwasg Gregynog!


MANYLION YR ARGRAFFIAD


Wedi’i dylunio gan Colin See-Paynton a’i hargraffu ar beiriant letterpress gan David Vickers, Rheolwr Gwasg Gregynog, mae’r gyfrol Of a Feather yn cynnwys 172 tudalen o fewn cloriau caled hardd. Fe’i hargraffwyd â pheiriant mewn Monotype Baskerville 16 pwynt, wedi’i gastio yng Ngregynog, a’i argraffu yno. Mae yn y gyfrol 31 tudalen llawn o ddarluniau, maint 200mm x 150mm, wedi’u hargraffu o doriadau pren a 27 dudalennau yn cynnwys darluniau llai eu maint, 50mm x 50mm. Fe’i cynhyrchwyd ar bapur o gotwm pur wedi’i fowldio, yn rhydd o asid, o wneuthuriad T.H.Saunders. Mae’r lluniau yn y gyfrol i gyd wedi’u hargraffu o’r blociau gwreiddiol, gyda’r ‘bluen’ ar y dudalen deitl wedi’i throshaenu gydag aur. Rhwymwyd y gyfrol â llaw mewn chwater lledr gyda llythrennau aur, ac fe’i cyflwynir mewn casyn arbennig o rwymiad lliain. O’r 150 copi a argraffwyd, mae 125 copi yn ymddangos mewn rhwymiad chwarter lledr, ac mae 25 copi ar gael mewn rhwymiad arbennig wedi’i gynllunio a’i rwymo eithriadol hardd gan aelod llawn o gymdeithas y Designer Bookbinders.

Mae’r darluniau sydd yn y gyfrol ar gael fel printiau unigol wedi’u llofnodi gan yr artist. List of prints available

Tudalennau esiampl allan o’r gyfrol: cliciwch ar y llun i weld fersiwn mwy
Delwedd wedi’i chwyddo

Dalier sylw: ni all delweddau cyfrifiadurol lawn gyfleu answadd a safonau cynhyrchu llyfrau a phrintiau a gynhyrchir gan Wasg Gregynog. Mae’r broses ddigido yn lladd y lliw ac yn anwybyddu manylion, ac effeithir ymhellach ar y delweddau gan yr amrywiaeth mewn sgriniau cyfrifiaduron.



Pris: £1750 (Quarter leather)
Ychwanegu i'ch basged
£1500 (in sheets)
Ychwanegu i'ch basged
.

Tudalennau enghraifft: cliciwch ar ddelwedd am fersiwn fwy.