Ffôn: + 44 (0)1686 650625
english

Llyfrau a phrintiau cain:
cynghanedd celf a chrefft

Crefftwyr ac artistiaid yn defnyddio technegau traddodiadol i greu llyfrau hardd.

Mae'ch basged yn wag

Byron Rogers: The Lost Children

manylyn o  Byron Rogers: The Lost Children

Stori ingol Gwenllian, merch Llywelyn, Tywysog olaf Cymru, a gafodd ei charcharu yn Abaty Sempringham Abbey pan y blentyn, a’i chadw yno hyd ei marwolaeth.Dyma stori a’i sefydlodd yn eicon cenedlaethol. Darluniau pen ag inc gan Anna Ravenscroft. Argraffiad cyfyngedig o 300 copi wedi’i rifo. Wedi’i rwymo â llaw mewn lliain coch llawn, gyda chlawr a meingefn wedi’i argraffu, ac wedi’i gyflwyno mewn casyn. 28tt., 220x140mm.

FE’U CARCHARWYD AM OES YN YSTOD EU PLENTYNDOD. Yr oeddynt yn ddi-fai, a heb gyflawni unrhyw drosedd, ond fe’u rhoddwyd dan glo am byth oherwydd yr hyn oeddynt. Daeth rhyddhad dim ond drwy farwolaeth - a chilio i droednodiadau hanes – i Blant Brenhinol Cymru, etifeddion olaf llinach yn ymestyn yn ôl i Ymerodraeth Rhufain a chwalwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y Goncwest Seisnig. YnThe Lost Children ceisia Byron Rogers adfer bywydau y broc môr gwleidyddol hyn, y diniweidiaid a droseddodd yn unig drwy gael eu geni. Yn y broses daeth Gwenllian, unig blentyn Tywysog olaf Cymru, yn eicon cenedlaethol. Erbyn hyn ceir Cymdeithas Gwenllian Gwenllian Society sydd wedi codi cofeb iddi drwy gyfraniadau cyhoeddus; ysgrifennwyd cerddi amdani, canwyd caneuon iddi, a bu hyd yn oed, o bopeth dan haul, yn destun erthygl yn y Daily Mirror. Yn sydyn, ar ôl 700 mlynedd, mae un o’r plant coll yn cael ei chyfrif yn fod dynol.


Pris: £120 (Bound)
Ychwanegu i'ch basged
£50 (Unbound)
Ychwanegu i'ch basged
.

Tudalennau enghraifft: cliciwch ar ddelwedd am fersiwn fwy.