Y mae Welsh Time, cyfrol a ddarluniwyd ac a gynhyrchwyd yn eithriadol o hardd gan Wasg Gregynog, ac a lofnodwyd gan yr awdur, yn dwyn ynghyd ddetholiad o weithiau llenyddol sy’n cynrychioli ystod eang ei yrfa lenyddol. O’i darllen yr ydym yn profi ‘Welsh Time’ ei hun trwy ddilyn hynt gyrfa Emyr Humphreys fel awdur a thrwy olrhain ei ddehongliad ef o hanes ei genedl yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yr ydym yn dystion hefyd i ddatblygiad ffuglennol ‘pobun’, o blentyndod hyd at henoed.
Y mae bywyd
Emyr Humphreys yn rhychwantu’r rhan helaethaf o’r ugeinfed ganrif; y mae ei yrfa fel ysgrifennwr wedi ymestyn dros fwy na hanner can mlynedd. Y mae’n awdur mwy nag ugain o nofelau, yn ogystal â nofelau byrion, cerddi, ysgrifau, dramâu, ynghyd â dehongliad arloesol o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru o’r canrifoedd Cristnogol cynnar hyd at y presennol. Trwy gydol ei fywyd hir bu’n ymgyrchwr diwyro dros hawliau Cymru fel gwlad fach Ewropeaidd. Cyhoeddiad trobwyntiol yw hwn i ddynodi digwyddiad diwylliannol trobwyntiol. Tros gyfnod o amser, felly, y mae’r gyfrol yn sicr o fagu arwyddocâd hanesyddol ac i fod o werth diwylliannol sylweddol.
 |
Launch of \'Welsh Time\' Cliciwch am ddelwedd fwy
|
Darlunnir Welsh Time â phrintiau gan
Paul Croft, Pen Argraffwr a Chymrawd Cymdeithas Frenhinol yr Arlunwyr-Gwneuthurwyr Printiau, sy’n gysylltiedig ag Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Y mae’n uchel ei fri fel artist, ymchwilydd, awdur a gwneuthurwr printiau, ac y mae wedi cydweithredu â llawer o artistiaid a gwneuthurwyr printiau wrth gynhyrchu sawl arddangosfa ryngwladol yn ddiweddar.
Y mae Welsh Time gan Wasg Gregynog yn gofnod unigryw o fywyd llenyddol unigryw. Cyfyngir yr argraffiad i 250 o gopïau i’w gwerthu, a bydd 75 o’r rhain wedi eu rhwymo â llaw mewn lledr chwarter glas ac ymylon bwcram coch, bandiau terfyn sidan wedi eu gwnïo â llaw, ac wedi eu blocio mewn arian ar y meingefn a’r clawr blaen, ac wedi eu cyflwyno mewn gorchudd llyfr. Printiodd yr artist â llaw y delweddau lithograffig sy’n darlunio’r copïau hyn, ac y maent wedi eu llofnodi ganddo ef a chan Emyr Humphreys ei hun.
Rhwymir y 175 copi sy’n weddill â llaw mewn chwarter bwcram coch ac ymylon papur glas, wedi eu blocio mewn aur ar y meingefn a’r clawr blaen: argraffwyd y darluniau yn y copïau hyn gan J. W. Northend o brintiau lithograffig gwreiddiol yr artist. Rhwymwr y ddau argraffiad yw
Stephen Conway. Dyluniwyd y gyfrol gan David Vickers, rheolwr Gwasg Gregynog, ac ef hefyd fu’n gyfrifol am yr argraffwaith ar bapur cotwm Somerset Book Wove. Castiwyd y teip gan Gerard O’Shea, gan ddefnyddio technegau teipgastio metel-poeth Monotype traddodiadol.
Pris copi chwarter lledr: £320
Pris copi lliain: £195
Ymholer i’r wasg am bris cyfrol mewn dalennau heb eu rhwymo
ISBN 978 0 9549839 9 4
Tudalennau enghraifft: cliciwch ar ddelwedd am fersiwn fwy.