|
|
Ffôn: + 44 (0)1686 650625 holi@gwasg-gregynog.co.uk |
![]() |
|
|
|||
Llyfrau a phrintiau cain: |
GostyngiadauLlyfrgelloedd a CholegauMae gostyngiadau ym mhrisiau cyhoeddiadau Gwasg Gregynog ar gael i lyfrgelloedd a cholegau. Cysylltwch â’r Wasg am fwy o fanylion.LlyfrwerthwyrMae gostyngiadau ym mhrisiau cyhoeddiadau Gwasg Gregynog ar gael i lyfrwerthwyr. Cysylltwch â’r Wasg am fwy o fanylion.Society of Bookbinders and Designer BookbindersUn o brif amcanion Gwasg Gregynog yw hyrwyddo a hybu’r safonau uchaf posibl mewn cynhyrchu llyfrau yn y dulliau traddodiadol, ac mae hynny’n cynnwys rhwymo llyfrau, wrth gwrs.Er mwyn rhoi hwb i hynny, ac yn unol â’i amcanion elusennol, mae Gwasg Gregynog yn noddi Gwobr Rhwymiad Cain Gwasg Gregynog (Gregynog Fine Binding Prize) yng nghynhadledd y Society of Bookbinders. Eto, Yn unol â’i amcanion elusennol, mae Gwasg Gregynog yn cynnig gostyngiad arbennig, yn unig i aelodau cymdeithasau y Society of Bookbinders a Designer Bookbinders, ar ei holl gyhoeddiadau mewn dalennau rhydd ar gyfer eu rhwymo. Trwy wneud hyn, hydera’r Wasg ei bod y galluogi aelodau’r cymdeithasau hyn i greu llyfrau cain, ac y bydd, yn ei thro, yn fodd i ysbrydoli rhwymiadau o’r safon uchaf. Cysylltwch â’r Wasg am fwy o fanylion. |