
Gwendoline and Margaret Davies
Nid oedd na'r lle na'r amser yn ymddangos yn ffafriol ar gyfer creu gwasg breifat at gynhyrchu argraffiadau de luxe ym 1922. Ychydig o brofiad o'r cyfryw faes oedd yma yng Nghymru; ac mor gynnar â hynny ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, nid creu pethau moethus oedd blaenoriaeth pobl yn gyffredinol. I raddau helaeth, trwy hap a damwain y sefydlwyd Gwasg Gregynog gan y chwiorydd Davies, gan mai argraffu oedd yr unig grefft draddodiadol a oroesodd, o'r amryw grefftau posibly gobeithiai'r ddwy ohonynt y gellid eu diogelu yng Ngregynog.
Ni allai Gwendoline Davies, yr hynaf a'r mwyaf ymarferol-egnïol o’r ddwy, na Margaret ei chwaer iau, nac ychwaith eu hymgynghorydd enwog a hyderus y Doethur Thomas Jones, fod wedi rhagweld yr amlygrwydd y byddai'r ymgymeriad hwn maes o law yn ei hawlio, fel un o'r gweisg mwyaf blaenllaw o fewn mudiad y gweisg preifat ym Mhrydain.
O gael ei thywys a'i meithrin gan feddwl mor eang ag eiddo Thomas Jones, a'i gyrru gan ynni a brwdfrydedd ei bwrdd bychan o gyfarwyddwyr, byddai'r Wasg yn ddiweddarach yn cael ei breintio ag argraffwyr yr un mor danbaid dros y grefft, ac ag artístíaid o ansawdd digamsyniol. Bu i Robert Maynard a Horace Walter Bray, yn ystod y cyfnod rhwng 1922 a 1930, sefydlu safonau aruchel o argraffyddiaeth a darlunìadaeth. Yn ddiweddarach, rhwng 1930 a 1933, llwyddodd eu dilynwyr, William MacCance a Blair Hughes-Stanton, i godi’r Wasg i uchelfannau newydd ym maes pren-ddarlunio engrafìadol; gweithgaredd a dalfyrrwyd yn anffodus gan ddirwasgiad economaidd. Dilynwyd hwy wedyn gan Loyd Haberly, y rheolwr Amerícanaìdd ifanc ecsentrig ond talentog, a gyflogwyd ar delerau rhan-amser yn unig, ac a reolai'r gweithrediadau gan mwyaf o bcllter. Ei gyfraniad mwyaf diddorol ef oedd cyflwyno wyneb-deip arbennig, a gollfarnwyd yn hallt gan awdurdodau teipograffig y dydd ac a ddefnyddiwyd unwaith yn unig mewn llyfr yn dwyn y teitl Eros and Psyche. O gyfnod Haberly ymlaen ni chaed un artist preswyl yng Ngregynog. Y rheolwr olaf cyn yr Ail Ryfel Byd oedd James Wardrop, a apwyntìwyd ym 1936, ac a weithiai yntau ar delerau rhan-amser yn unig. Roedd Wardrop yn gaeth o draddodiadol, a'i waith gorau oedd
The History of Saint Louis.
 |
Plas Gregynog Cliciwch am ddelwedd fwy
|
Roedd Gwasg Gregynog yn unigryw oherwydd fod y cwbl o'i gwaith wedi'i greu dan yr un to - cynllunio, teipograffiaeth, darluniadu, argraffu a rhwymwaith. O ran argraffu cain, y crefftwyr yr oedd y Wasg yn fwyaf dyledus iddynt oedd Herbert John Hodgson, a'i fedr digyffelyb wrth drin yr argraffwasg, ynghyd â'i olynydd, Idris Jones. Roedd y Wasg hefyd yn hynod o ffodus i allu cyflogi un o rwymwyr mwyaf clodfawr yr ugeinfed ganrif, sef George Fisher, a ymunodd â'r gweithlu ym 1925. Bu Fisher yn gyfrifol am roi cychwyn i'r arferiad o rwymo cyfran fechan o bob un argraffiad mewn lledr cyflawn. Er bod nifer o'r rhwymiadau arbennig hyn wedi'u cynllunio gan arlunwyr y Wasg, ymgymerai Fisher ei hun â chyfran sylweddol o'r cyfryw orchwyl. Roedd diwyg gwych dros ben i'r gorffenweithiau yma, a nodweddid hwy’n neilltuol gan ansawdd eu haddurnwaith. O blith y gweisg preifat, Gwasg Gregynog yn unig a ymroddai mor drwyadl i warantu ansawdd y rhwymiadau; a fyddai'n ychwanegu'n sylweddol at werth y llyfrau maes o law ymhlith casglwyr.
O 1939 ymlaen, galwyd y dynion a oedd ar restr gyflogaeth y staff i'r lluoedd arfog, gan adael George Fisher ar ei ben ei hun yn y Wasg hyd at 1945, i gwblhau'r rhwymiadau arbennig. Ym 1940 gorfodwyd y Wasg i gau, a hithau wedi argraffu dau lyfr a deugain, tri llyfr ychwanegol ar gyfer cylchrediad preifat, ac ymhell dros ddau gant o ddarnau o effemerâu byrhoedlog. Am ddeunaw mlynedd yr ocdd wedi mwynhau enw da diamheuol haeddiannol ym myd llyfrau ceinwych; ond gyda'r rhyfel daeth pennod gyntaf hanes argraffu yng Ngregynog i ben.
Dorothy A. Harrop
Wedi i'r hen gwmni ddod i ben yn ffurfíol yn 1965, etifeddodd Prifysgol Cymru yr ewyllys da, peth offer, teip a phapur. Ar ôl cyfnod o ddyfalu sut i wneud defnydd o'r cyfan, yntai fel amgueddfa neu fel Gwasg weithredol, cafwyd grant gan Gyngor y Brifysgol i ethol Cymrawd Argraffu am flwyddyn, gyda'r dasg o gyhoeddi llyfr. Bu Michael Hutchins o Goleg Camberwell wrthi am ddeunaw mis yn 1975-6 yn ymlafnio i argraffu
Laboratories of the Spirit gan R.S.Thomas ar wasg llaw Albion fechan, ar bapur wedi ei dampio, ac mewn argraffiad o ddau gant. Gan fod y fenter uchelgeisiol wedi troi'n llwyddiant, fe awdurdododd y Cyngor gais i Gyngor y Cclfyddydau am gymorth i ailagor y Wasg, ac am yn agos i ugaìn mlynedd cafwyd swm anrhydcddus ganddynt i hwyluso hynny.
Penodwyd Eric Gee, cyn-bennaeth Ysgol Argraffu Birmingham, yn Rheolwr, a David Vickers (y Rheolwr presennol) yn gynorthwywr iddo, a rhyngddynt fe osodwyd sylfaen gadarn o grefftwaith manwl a chlasurol. Dros y blynyddoedd fe ychwanegwyd at y peiriannau, gan gynnwys gwasg silindr Heidelberg a chastìwr Monoteip. Hyd at yn ddiweddar iawn fe boenwyd y Rheolwr yn gyson gan yr anallu i gael testunau i’w hargraffu mewn da bryd. Felly, rhywbeth braidd ar y funud olaf oedd y llyfr cyntaf, sef hanes bywyd Thomas Olivers, yr emynydd o Dregynon.
Ond wedyn sefydlwyd patrwm, fel yn y blynyddoedd cyn y rhyfel, o gyhoeddi cyfrolau gyda darluniau (gan amlaf engrafiadau ar bren), mewn argraffiad o ryw ddau gant neu fwy, gyda phymtheg, neu ar y mwyaf ugain, mewn rhwymiad arbennig moethus. Am flynyddoedd nid oedd gan y Wasg newydd rwymwr sefydlog, hyd nes y daeth Alan Wood o Brifysgol Southampton yn 1990; ond yn 1982-83 fe benodwyd James Brockman, yntau yn rhwymwr o fri, yn Gymrawd yn y Celfyddydau yng Ngregynog ac am gyfnod ef oedd yn gyfrifol am lawer o'r rhwymiadau arbennig. Er hynny, parhaodd y Wasg i ehangu’i gorwelion a dewis rhwymwyr, darlunwyr ac, ar brydiau, gynllunwyr eraill i gyfateb â gofynion cyfrolau arbennig.
Fe ddilynwyd Eric Gee wedi ei ymddeoliad yn 1985 gan David Esslemont, artíst, argraffydd a rhwymwr ac, o'r llyfrau llwyddiannus a gynhyrchwyd yn ystod ei oruchwyliaeth, enillodd un,
Giraldus Cambrensis (1989), wobr enwog Felice Feliciano. Y mae'r Wasg wedi cyhoeddi yn y ddwy iaith o'r dechrau; un o'r llyfrau cyntaf oedd
Cerddi Robert Williams Parry (1980) ac, a David Esslemont wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg, fe barhawyd i gyhoeddi detholion o brif feirdd ac emynwyr Cymru. Daeth cymorth blynyddol Cyngor y Celfyddydau i ben ym Mawrth 1998, ac o ganlyniad bu'n rhaid colli staff, gan gynnwys David Esslemont a'r rhwymwr Alan Wood (ond ei fod ef yn parhau i weithio ar gontract).
Bu cryn broffwydo mai dyna fyddai tranc y Wasg, neu y byddai ar y gorau yn llusgo ymlaen gan gyhoeddi'n ysbeidiol a di-lun. I’r gwrthwyneb, y mae'r Rheolwr newydd, David Vickers, yn llwyddo i gynnal safonau ac i argraffu cyfrolau sydd, ym marn beirniaid cydnabyddedig, yn dal cymhariaeth â'r gorffennol. Ar ddechrau 2002 fc gofrestrwyd y Wasg yn elusen, ac y mae wedi elwa ar haelioni nifcr o sefydliadau a phersonau, yn amlwg iawn yn eu plith yr oedd Syr Kyffin Williams, darlunydd, awdur a chynllunydd (gyda David Vickers) y gyfrol, Cuttìng Images (2002), sydd erbyn hyn allan o brint.
GLYN TEGAI HUGHES