 |
Cast type Cliciwch am ddelwedd fwy
|
Dros gyfnod o bedwar ugain mlynedd ei bodolaeth, mae Gwasg Gregynog wedi defnyddio amryw byd o weisg argraffu. Gwasg law Albion oedd y gyntaf ac fe’i defnyddiwyd i gynhyrchu dau deitl. Ond fe’i disodlwyd yn fuan gan wasg blât Victoria, gwasg a gyrhaeddai’r un safon argraffu ond a wnâi hynny’n gynt. Argraffwyd [ital:Laboratories of the Spirit], llyfr cyntaf y Wasg ail-sefydledig, unwaith eto gan y wasg Albion (trosglwyddwyd y wasg blât Victoria i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1954). Argraffwyd y tri llyfr nesaf ar wasg law Soldans Proofmaster hyd nes dychwelwyd y wasg blât Victoria ar fenthyciad parhaol yn 1980, gan sicrhau cynhyrchu cyflymach, ond eto dan oruchwyliaeth ofalus.
 |
Heidelberg Cylinder Press Cliciwch am ddelwedd fwy
|
O 1986 ymlaen defnyddiwyd y wasg silindr Heidelberg ac, ac eithrio rhai eitemau bychain, cynhyrchwyd pob llyfr ers hynny ar y wasg hon. Ac eithrio yn achos y cyfrolau teneuaf, oherwydd ystyriaethau ariannol ac amser, tociwyd ar y gwaith cysodi a wneir â llaw. Erbyn hyn defnyddir y system ‘Monotype’ i osod y llyfrau, sef dull o gynhyrchu darnau unigol o deip metal. Defnyddir dau beiriant gwahanol yn y broses hon, sef yr allweddell a’r peiriant castio. Mae’r naill beiriant yn cynhyrchu sbŵl o bapur rhydyllog sy’n peri i’r llall weithredu. Diolch i’r system ‘Mactronic’, fodd bynnag, dilëir camgymeriadau dynol gan fod modd cynhyrchu’r sbŵl yn syth o ddisg yr awdur a’i gastio wedyn yn y dull traddodiadol. Eto i gyd, mae gofyn llygad barcud i oruchwylio’r prosesau hyn, gan fod gan hyd yn oed y system peirianyddol gorau eu diffygion.