Ffôn: + 44 (0)1686 650625
english

Llyfrau a phrintiau cain:
cynghanedd celf a chrefft

Crefftwyr ac artistiaid yn defnyddio technegau traddodiadol i greu llyfrau hardd.

Mae'ch basged yn wag

Presenoldeb Gwasg Gregynog yn Eisteddfod Genedlaethol 2009

Eleni eto bydd Gwasg Gregynog yn parhau â’i threfniant arferol o gael cornel o stondin arddangos Prifysgol Cymru (rhifau 246-248) ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i’w gwaith. Bydd yno wasg llaw fechan a bydd Gerard O’Shea, argraffwr o Wasg Gregynog, yno wrth law i arddangos y grefft o argraffu ac i helpu’r rhai fydd a diddordeb i gynhyrchu cofrodd arbennig o faes eisteddfod 2009 yn cynnwys eu henwau. Bydd y cofrodd yn cynnwys argraffiad o’r hen bennill traddodiadol ‘Ffarwel i Blwy’ Llangower’.

Yn ogystal â hynny, am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd y Wasg yn llogi stondin yn y Neuadd Arddangos ar y maes (y babell o stondinau masnachol amrywiol sydd ynghlwm â stondin Cyngor Llyfrau Cymru) yn unswydd ar gyfer gwerthu llyfrau a phrintiau. Bydd darn o effemera newydd gan Wasg Gregynog yn cynnwys y penillion traddodiadol ‘Boneddwr Mawr o’r Bala’ ar werth am bris rhesymol iawn ar y stondin hon eleni. Dalier sylw hefyd: byddwn yn cynnig rhai cyfrolau i’w gwerthu am bris gostyngol arbennig dros wythnos yr Eisteddfod yn unig!

Nodwch hefyd ein bod yn cynnal dau achlysur anffurfiol ar faes y Brifwyl eleni, sef lansiad arall i Welsh Time (cyfrol newydd yn arbennig i ddathlu pen blwydd Emyr Humphreys yn 90 oed) ar stondin Prifysgol Cymru, am 12.00 o’r gloch dydd Llun, 3 Awst, yng nghwmni Yr Athro M. Wynn Thomas, golygydd y gyfrol. Gwahoddir chi i fynychu’r cyfarfod hwn ac i fanteisio ar y cyfle i brynu’r gyfrol. Trefnir lluniaeth ysgafn.

Hefyd byddwn yn cynnal lansiad ein gwefan ddwyieithog newydd a siop ar-lein, www.gwasggregynog.co.uk , eto yn stondin y Brifysgol, dydd Mercher, 5 Awst, am 12.00 o’r gloch, yng nghwmni’r Athro Eric Sunderland, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Gwasg Gregynog, a Nigel Callaghan, cynllunydd y wefan. Bydd lluniaeth ysgafn a bydd croeso i bawb fynychu’r cyfarfod hwn hefyd.

Edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala.

Am wybodaeth bellach am gyhoeddiad Gwasg Gregynog, cysyllter â:

David Vickers, Gwasg Gregynog 01686 650625
gwasg-gregynog@btconnect.com

neu:

Ann Ffrancon 01970 612024 llainwen@hotmail.com