Ffôn: + 44 (0)1686 650625
english

Llyfrau a phrintiau cain:
cynghanedd celf a chrefft

Crefftwyr ac artistiaid yn defnyddio technegau traddodiadol i greu llyfrau hardd.

Mae'ch basged yn wag

Catalog

Cynigir nifer o ddisgowntiau. Gweler y dudalen disgownt am fwy o fanylion.

Dangosir: Llyfrau       Dangos: Printiau   Dangos: Amrywiol   

Dangos llyfrau Saesneg | Cymraeg | Dwyieithog yn unig.

manylyn o  Social HymnsSocial Hymns
Detholiad o ddeg emyn a gyhoeddwyd i ddathlu bywyd a gwaith Robert Owen, y diwygiwr cymdeithasol o’r ddeunawfed ganrif. Argraffiad wedi’i gyfyngu i 200 copi wedi‘u gwnïo â llaw a’u cyflwyno mewn clawr papur. 16tt, 235x160mm.
manylion
£20 (Bound)
manylyn o  The Romantics in WalesThe Romantics in Wales
Blodeugerdd o ddyfyniadau o'r ysgrifenwyr Rhamantaidd o Sais, wedi'i olygu gan Glyn Tegai Hughes, gyda darluniau gan Hilary Paynter.
manylion
£725.00 (Quarter bound(before 10 Nov 2009))
£795.00 (Quarter bound)
£500.00 (Unbound)
manylyn o  Welsh TimeWelsh Time
Darnau cynrychioliadol yn rhychwantu hanner can mlynedd a mwy o yrfa Emyr Humphreys fel un o brif nofelwyr Cymru, wedi’u dethol a’u golygu gan M.Wynn Thomas a’u darlunio gan Paul Croft. Cyhoeddwyd fel teyrnged i Emyr Humphreys ar achlysur ei ben blwydd yn naw deg oed. 112tt., 250x155mm.
manylion
£320 (Qtr.leather)
£195 (Qtr.cloth)
£150 (Unbound)
manylyn o  Of A FeatherOf A Feather
Avian Collective Nouns & Terms of Assembly, Group Names & Associated Terms. Ysgrifenwyd, casglwyd, ddylunwyd a darluniwyd gan COLIN SEE-PAYNTON, gyda Rhagair gan DAVID ATTENBOROUGH
manylion
£1750 (Quarter leather)
£1500 (in sheets)
manylyn o  Kyffin: A CelebrationKyffin: A Celebration
Deuddeg o gyfraniadau wedi’u comisiynu’n arbennig i ddathlu bywyd a gwaith Syr Kyffin Williams, R.A.. Wedi’i ddarlunio gyda detholiad o doriadau gan ye artist ei hun, rhai heb weld golau ddydd cyn hyn. Cyfrol wedi’i golygu ac yn cynnwys Rhagymadrodd gan Derec Llwyd Morgan, a Rhagair gan Ei Fawrhydi Tywysog Cymru. Wedi’i rwymo mewn chwarter lledr gyda ochrau lliain, y teitl mewn aur ar y meingefn, a chloriau lliain gyda bloc du ar y clawr blaen. Cyflwynir mewn casyn cadw. Argraffiad o 300 copi i’w gwerthu. 84 tt., 260x180mm. Mae cymunrodd i Wasg Gregynog gan yr artist wedi golygu y gellir cynnig y gyfrol hon am bris gostyngol o £350.
manylion
£350 (Bound)
manylyn o  Mapping GolgothaMapping Golgotha
Detholiad o lythyrau a barddoniaeth Wilfred Owen, y bardd Saesneg eiconaidd o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Golygwyd gan Jeremy Hooker ac wedi’i ddarlunio gydag ysgrythiadau deuliw gan Harry Brockway. Cyfyngir yr argraffiad i 200 copi wedi’i rifo a’i chwarter rwymo mewn croen llo gydag ochrau lliain wedi’i argraffu, a teitl di-inc ar y meingefn.
manylion
£275 (Bound)
£150 (Unbound)
manylyn o  The Afanc King and the Sons of TeyrnonThe Afanc King and the Sons of Teyrnon
Chwedl Ganol Oesol yn null Cainc Gyntaf y Mabinogi. Testun gan Christopher Meredith a delweddau gan Sara Philpott. Llyfr main, fformat mawr: 28 tt., 350x250mm, wedi’i rwymo mewn chwarter lledr gydag ochrau o bapur wedi’i argraffu, a’r teitl mewn aur ar y clawr blaen, wedi’i gyfyngu i 200 o gopiau wedi’u rhifo.
manylion
£175 (Bound)
£125 (Unbound)
manylyn o  Byron Rogers: The Lost ChildrenByron Rogers: The Lost Children
Stori ingol Gwenllian, merch Llywelyn, Tywysog olaf Cymru, a gafodd ei charcharu yn Abaty Sempringham Abbey pan y blentyn, a’i chadw yno hyd ei marwolaeth.Dyma stori a’i sefydlodd yn eicon cenedlaethol. Darluniau pen ag inc gan Anna Ravenscroft. Argraffiad cyfyngedig o 300 copi wedi’i rifo. Wedi’i rwymo â llaw mewn lliain coch llawn, gyda chlawr a meingefn wedi’i argraffu, ac wedi’i gyflwyno mewn casyn. 28tt., 220x140mm.
manylion
£120 (Bound)
£50 (Unbound)
manylyn o  Pennant and his Welsh LandscapesPennant and his Welsh Landscapes
Golygwyd gyfrol hon gan Gwyn Walters, ac ef hefyd luniodd y Rhagymadrodd iddi. Fe’i darluniwyd gyda 20 graflun pren wedi’i creu gan Rigby Graham, a dyluniwyd y gyrol hardd hon gan Robert Meyrick. Naturiaethwr a hynafiaethwr oedd Thomas Pennant (1726 – 1798), gŵr deithiodd ac a gofnododd yn eang ac a oedd yn uchel iawn ei barch ymysg ei gyfoedion.
manylion
Allan o brint
manylyn o  The Book of RuthThe Book of Ruth
Dylunwyd gan John Woodcock (sydd hefyd wedi ysgythru’r bloc ar gyfer y dudalen deitl) ac wedi’i ddarlunio gydag engrafiadau pren gan Anna Ravenscroft. 200 copi mewn chwarter lliain gyda byrddau wedi’u gorchuddio â phapur patrwm. 24tt., 305x230mm
manylion
£135 (Bound)
£75 (Unbound)
manylyn o  The Special Bindings of Gwasg GregynogThe Special Bindings of Gwasg Gregynog
Catalog wedi’i ddarlunio mewn lliw llawn yn dangos y rhwymiadau arbennig a gynhyrchwyd gan Wasg Gregynog er 1977. Casglwyd gan Anthony Dowd gydag astudiaeth gan James Brockman. Argraffiad cyfyngedig i 200 copi. 104tt., 300x195mm. Ar gael mewn rhwymiad lledr llawn gyda bandiau wedi’u codi, neu mewn rhwymiad lliain.
manylion
£330 (Leather)
£175 (Cloth)
£125 (Unbound)
manylyn o  George Herbert: Sundrie PiecesGeorge Herbert: Sundrie Pieces
Detholiad newydd o ryddiaith a barddoniaeth Herbert, ynghyd â chasgliad o dros 200 o ddiarhebion. Golygwyd gan Iarll Powis ac wedi’i ddarlunio gan Sarah van Niekerk. 200 copi mewn chwarter lledr gydag phapur brith ar yr ochrau marbled. 120tt., 300x175mm
manylion
£450 (Bound)
£250 (Unbound)
manylyn o  Llyfr RuthLlyfr Ruth
Cyfieithiad William Morgan o Lyfr Ruth allan o’r Hen Destament. Dylunwyd gan John Woodcock a darluniwyd gydag ysgrythiadau pren gan Anna Ravenscroft. 300 copi wedi’u rhwymo â llaw mewn chwarter lliain gyda byrddau wedi’u gorchuddio â phapur patrwm. 24tt.,305x230mm.
manylion
£135 (Bound)
£75 (Unbound)
manylyn o  Eirene: A TributeEirene: A Tribute
Teyrnged i’r Farwnes White o Rymni gan David Lewis Jones, Llyfrgellydd, Tŷ’r Arglwyddi; atgofion personol gan Ron Edwards a Glyn Tegai Hughes. Ffotograff wynebddarlun o’r Fonesig White. 170 copi mewn chwarter lliain. 30tt., 240x150mm
manylion
£50 (Bound)
£30 (Unbound)
manylyn o  Emynau Morgan RhysEmynau Morgan Rhys
Deugain emyn o waith yr emynydd hwn o’r ddeunawfed ganrif. Detholwyd a golygwyd gan D. Simon Evans. Darluniwyd gan Rhiain M. Davies. 250 copi mewn chwarter lliain gydag ochrau o bapur wedi’i argraffu. 100 copi mewn chwarter lledr gyda chloriau wedi’u gorchuddio â canfas. 86tt., 260x170mm.
manylion
£270 (Qtr.Leather)
£150 (Cloth)
£75 (Unbound)
manylyn o  Goethe: PoemsGoethe: Poems
Wedi’i gyhoeddi i ddathlu achlysur 250 mlynedd geni Goethe, a hefyd dathliad 600 mlynedd geni Johann Gutenburg. Golygwyd gan Jim Reed. 150 copi mewn chwarter lliain gydag ochrau o bapur wedi’i argraffu. 64tt., 280x170mm
manylion
£145 (Bound)
£70 (Unbound)
manylyn o  Gwyddau yng Ngregynog / Geese at GregynogGwyddau yng Ngregynog / Geese at Gregynog
Cerdd gan R. Gerallt Jones wedi’i chyhoeddi fel teyrnged i’r awdur. Cyfieithiad Saesneg gan Joseph P. Clancy. Ysgrythiadau pren gan Colin See-Paynton. 250 copi mewn cloriau papur wedi’i batrymu a ddylunwyd gan Victoria Hall. 12tt., 245x155mm.
manylion
£40 (Bound)
manylyn o  The Twelve / Y DeuddegThe Twelve / Y Deuddeg
Ysgythriadau pren gan John Elwyn yn darlunio y deuddeg Apostol. Dyfyniadau o’r Beibl mewn Cymraeg a Saesneg, a sylwebaeth gan Glyn Tegai Hughes a Robert Meyrick. 250 copi mewn chwarter lliain. 44tt., 245x145mm.
manylion
£145 (Bound)
£70 (Unbound)
manylyn o  Inwards Where All The Battle IsInwards Where All The Battle Is
Detholiad o weithiau llenyddol Alun Lewis o’r India wedi’u golygu gan Jeremy Hooker, darluniwyd a’u llofnodi gan David Gentleman. 100 copi mewn chwarter lledr, 200 mewn lliain. 108tt., 255x160mm.
manylion
£245 (Qtr leather)
£150 (Cloth)
£75 (Unbound)
manylyn o  Hwiangerddi Owen M. EdwardsHwiangerddi Owen M. Edwards
Casgliad o hwiangerddi a phenillion Cymraeg i blant wedi’i cywain gan y llenor nodedig Syr O. M. Edwards. Detholwyd gan Hazel Walford Davies. Mae darluniau lliw Jac Jones yn cyfleu naws y penillion syml hyn. 250 copi mewn lliain wedi’i addurno. 68tt., 300x165mm.
manylion
£125 (Bound)
manylyn o  Intimate Leaves from a DesignerIntimate Leaves from a Designer's Notebook
Wedi’i ysgrifennu a’i ddylunio gan John Ryder, sy’n archwilio ac yn dadansoddi ffurfiau llythrennau, y ddalen argraffedig, a’r union ddull yr ydym yn mynd ati i ddarllen llyfrau. Darluniau gan amrywiaeth o artistiaid. 80 copi mewn chwarter lledr. 154tt., 245x155mm.
manylion
£200 (Bound)
manylyn o  Jan Morris: A Machynlleth TriadJan Morris: A Machynlleth Triad
Gwaith wedi’i gomisiynu’n arbennig ac wedi’i ddylunio gan John Ryder a’i ddarlunio gan Brenda Berman. 310 copi wedi’i wnïo, yn rhydd mewn ‘chemise’ oddi mewn i gasyn.
manylion
£135 (Bound)
£75 (Unbound)
manylyn o  W.H.Davies: The LoversW.H.Davies: The Lovers' Song-book
Cerddi heb eu darlunio allan o argraffiad Gregynog 1933. 350 copi mewn cloriau cerdyn wedi’u gorchuddio a siaced lwch o bapur. 20tt., 350x165mm.
manylion
£30 (Bound)
£15 (Unbound)
manylyn o  John Ormond: Cathedral BuildersJohn Ormond: Cathedral Builders
Pymtheg cerdd ar hugain wedi’i darlunio gan yr awdur ac yn cynnwys nifer helaeth o’i gerddi mwyaf adnabyddus. Argraffiad o 200 copi mewn chwarter lliain. 78tt., 310x205mm.
manylion
£120 (Bound)
manylyn o  The Pleasant History of Lazarillo de TormesThe Pleasant History of Lazarillo de Tormes
Fersiwn wedi’i ddiweddaru o gyfieithiad gan David Rowland, cyhoeddwyd yn 1586, un o glasuron ymysg cyfieithiadau i’r iaith Saesneg. Golygwyd gyda nodiadau helaeth gan Gareth Alban Davies. Toriadau pren ac ysgythriadau pren gan Frank Martin.
manylion
£160 (Goatskin)
£85 (Cloth)
£40 (Unbound)
manylyn o  Walt Whitman: Wrenching TimesWalt Whitman: Wrenching Times
Cerddi allan o Drum-Taps wedi’i golygu gan M. Wynn Thomas a’u darlunio gyda ysgythriadau pren wedi’u lliwio Gaylord Schanilec. 400 copi mewn chwarter lledr. 72tt., 375x275mm.
manylion
£300 (Bound)
£150 (Unbound)
manylyn o  Gwasg Gregynog: A Descriptive CatalogueGwasg Gregynog: A Descriptive Catalogue
Casglwyd gan David Esslemont a Glyn Tegai Hughes, mae’r cyhoeddiad cyfeiriol pwysig hwn yn cynnwys manylion llyfryddol llawn ar gyfer y llyfrau ac effemers a gynhyrchwyd yng Ngregynog rhwng 1970 a 1990. Argraffiad wedi’i gyfyngu i 755 copi mewn clawr cerdyn, 100 mewn chwarter lledr, a 25 rhwymiad arbennig. Mae rhai o’r copiau hyn yn parhau i fod ar gael (manylion i’w cael oddi wrth Gwasg Gregynog). 88tt., 305x200mm.
manylion
£210 (Qtr.leather)
£35 (Card)
manylyn o  Cynulliad Cenedlaethol Cymru/Welsh AssemblyCynulliad Cenedlaethol Cymru/Welsh Assembly
Argraffiad cofrodd wedi’i argraffu gyda’r teip a ddefnyddiwyd ar gyfer y ddogfen aroriadol a arwyddwyd gan Ei Mawrhydi’r Frenhines yn ystod agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. 250 copi mewn lliain llawn, wedi’i flocio mewn aur a’i gyflwyno mewn cas cadw. Copïau arbennig gyda nodiadau pwrpasol ar gael ar gyfer aelodau’r Cynulliad. 8tt., 370x250mm.
manylion
£90 (Bound)
£30 (Unbound)
manylyn o  Stephen Crane: The Red Badge of CourageStephen Crane: The Red Badge of Courage
Cyfrol wedi’i chomisiynu gan The Land Press. Stori glasurol am y Rhyfel Cartref yn America. Wedi’i hargraffu yng Ngregynog ac yn cynnwys unarddeg darlun collotype o archifau Rhyfel Cartref America. 115 copi. 148tt., 295x215mm. Rhwymiad lliain llawn.
manylion
£130 (Bound)
£50 (Unbound)