Ffôn: + 44 (0)1686 650625
english

Llyfrau a phrintiau cain:
cynghanedd celf a chrefft

Crefftwyr ac artistiaid yn defnyddio technegau traddodiadol i greu llyfrau hardd.

Mae'ch basged yn wag

Catalog

Cynigir nifer o ddisgowntiau. Gweler y dudalen disgownt am fwy o fanylion.

Dangosir: Printiau       Dangos: Llyfrau   Dangos: Amrywiol   
manylyn o  Prints from Prints from 'Pennant and his Welsh landscapes'
22 graflun pren wedi’i creu gan Rigby Graham, ar gyfer y gyfrol hardd hon. Naturiaethwr a hynafiaethwr oedd Thomas Pennant (1726 – 1798), gŵr deithiodd ac a gofnododd yn eang ac a oedd yn uchel iawn ei barch ymysg ei gyfoedion.
manylion
manylyn o  Gwyddau yng Ngregynog / Geese at GregynogGwyddau yng Ngregynog / Geese at Gregynog
Mae grafluniau pren COLIN SEE-PAYNTON yn codi goruwch confensiwn darlunio bywyd gwyllt, maes sydd, fel arfer, yn tueddu i cyfyngu graflunwyr sy’n gweithio mewn pren. Wedi dysgu’r grefft iddo’i hun, mae bellach wedi sefydlu’i enw ymysg y goreuon sy’n gweithio yn y cyfrwng hwn heddiw. Ei fanylder a’i grefftwaith cain yw rhai o’r prif nodweddion sy’n sicrhau fod ei waith mor apelgar. Mae wedi darlunio chwe print ar gyfer Gwasg Gregynog, darluniau allan o’r llyfryn ‘Gwyddau yng Ngregynog’. Argraffwyd y rhain ar bapur mowld Lana mewn argraffiad o 100 copi wedi’u rhifo a’u llofnodi gan yr artist. Maent ar gael yn ddifownt fesul un neu mewn set o dri.
manylion
£201.25 (Set)
manylyn o  An ABC Tour of FranceAn ABC Tour of France
Cyfres o doriadau leino yn darlunio amrywiol ddinasoedd, trefi ac ardaloedd yn Ffrainc wedi’i lliwio â llaw gan ddefnyddio stensiliau, proses a adwaenir fel pochoir. Mae’r llyfr hwn allan o brint, ond mae nifer o’r darluniau ar gael fel printiau unigol.
manylion
manylyn o  Harry Brockway: The Story of HeleddHarry Brockway: The Story of Heledd
Mae HARRY BROCKWAY yn un o’r nifer cynyddol o artistiaid iau sy’n gweithio gydag ysgrythiadau pren. Fe’i hyfforddwyd yn gerflunydd yn wreiddiol ac fe’i haddysgwyd i ysgythru mewn pren yn ysgolion y Royal Academy gan Sarah van Niekerk: mae hefyd yn saer maen. Mae ei ddarluniau ar gyfer The Story of Heledd wedi’u llunio drwy ysgythru y prif ddelwedd ar blastig, yna argraffu yr ail liw dros ei phen gan ddefnyddio toriadau leino. Argraffiad o 66 copi wedi’i arwyddo gan yr artist. Mae printiadau unigol heb fownt ar gael. Mae rhifau 4 a 6 ychydig yn llai o ran maint.
manylion
manylyn o  Kyffin PortfolioKyffin Portfolio
Chwech print o doriadau leino gwreiddiol gan Syr Kyffin Williams R.A.
manylion
£975.00 (Set)
manylyn o  Prints from Prints from 'Mapping Golgotha'
Ysgrythiadau deuliw unigol gan Harry Brockway ar gyfer 'Mapping Golgotha'
manylion