|
|
Ffôn: + 44 (0)1686 650625 holi@gwasg-gregynog.co.uk |
![]() |
|
|
|||
Llyfrau a phrintiau cain: |
Amodau a thelerau gwerthiantPaypalEr mwyn medru cynnig gwasanaeth talu arlein diogel rydym yn defnyddio cwmni Paypal ar gyfer eich archeb. Gallwch ddefnyddio eich cyfrif Paypal i dalu (os oes gennych gyfrif) neu fel arall gallwch ddefnyddio dewis eang o gardiau credyd neu gardiau debyd.Bydd eich manylion ariannol ond ar gael i Paypal, a byddant hwy yn rhoi gwybod i ni os yw’ch taliad yn llwyddiannus ai peidio, ac ni fyddant yn datgelu i ni unrhyw fanylion ariannol amdanoch chi. Os hoffech brynu unrhyw eitem a ddangosir ar ein catalog ar y we, yna dewiswch yr eitem a’i hychwanegu i’ch basged siopa. Pan fyddwch wedi gorffen prynu, dewiswch TALU. Byddwn wedyn yn gofyn i chi am eich enw a’ch cyfeiriad (fel ein bod yn gallu dosbarthu’r nwyddau) a bydd y system yn dangos ffurflen archebu wedi’i chwblhau. Dilynwch gyfarwyddiadau Paypal pan fyddwch yn talu, os gwelwch yn dda. Bydd cost postio a phacio yn dibynnu ar faint eich archeb. Byddwch yn cael gwybod beth yw’r gost am hynny cyn i chi gwblhau’r archeb. Dulliau eraill o daluOs byddai’n well gennych dalu â siec, neu roi i ni fanylion eich cerdyn credyd dros y ffôn, neu fod gennych unrhyw anghenion arbennig eraill, yna cysylltwch â ni yn uniongyrchol, os gwelwch yn dda.Termau a thelerau• Ni fydd unrhyw archeb yn cael ei phrosesu hyd nes bydd y taliad wedi’i brosesu • Byddwn yn defnyddio’r Post Brenhinol neu gludwr i ddelifro • Bydd unrhyw fanylion personol a gedwir ar ein cyfrifiaduron yn cydymffurfio â thelerau y rhannau perthnasol o’r Ddeddf Gwarchod Data • Bydd yr holl nwyddau’n eiddo’r gwerthwr nes bydd y taliadau llawn wedi’i derbyn Rydym yn dal yr hawl i wrthod cyflenwi nwyddau • Dosbarthu: gadewch rhwng 14 – 21 diwrnod i fynd heibio o’r adeg pan wneir y taliad yn llawn cyn derbyn y nwyddau • Os darganfyddir bod y nwyddau â nam arnynt byddwn yn anfon nwyddau yn eu lle o fewn 28 diwrnod • Daliwn yr hawl i newid unrhyw bris a hysbysebir gennym cyn i chi osod archeb • Mae’r holl gynnyrch a’r gwasanaeth a gynigir gennym yn dibynnu ar fod ar gael a gallant gael eu diddymu ar unrhyw adeg na allwn gyflenwi eich archeb byddwch yn cael cynnig dewis arall neu’n ad-daliad llawn • Byddwn yn cymryd pob gofal rhesymol, mor belled ag y mae yn ein gallu ni i wneud hynny, i gadw manylion eich archeb a’ch taliad yn ddiogel, ond yn niffyg esgeulustod ar ein rhan ni, ni allwn gael ein dal yn gyfrifol am unrhyw golledion a ddaw i’ch rhan os yw trydydd parti yn cael mynediad heb ganiatad i’r manylion y byddwch yn eu darparu pan yn archebu ar ein gwefan ni. • Rydym angen eich enw a’ch cyfeiriad fel ein bod yn gallu anfon y nwyddau atoch, ond ni fyddwn yn trosglwyddo eich enw na’ch cyfeiriad i drydydd parti. • Os byddwch yn dymuno dileu eich archeb am unrhyw reswm, rhaid i chi wneud hynny drwy lythyr (neu drwy ebost) i’r cyfeiriad ar y wefan hon ar unrhyw adeg hyd at saith diwrnod gwaith ar ôl i chi dderbyn y nwyddau. Os bydd y nwyddau eisoes wedi’u hanfon ar yr adeg y byddwch yn dileu’r archeb yns byddwch yn gyfrifol am ddychwelyd y nwyddau mewn cyflwr heb eu difrodi. Ad-delir y pris llawn am y nwyddau (gan gynnwys pris postio). Noder: nid yw’r amod hwn yn berthnasol i eitemau sy’n cael eu dangos fel ‘Cynnig Arbennig’ neu ‘Archeb Arbennig’ sydd ddim ar dir i dderbyn ad-daliad arnynt oni bai fod y nwyddau’n ddiffygiol. • Rydym yn cadw’r hawl i newid y Termau a Thelerau hyn ar unrhyw adeg • Nid yw’r Termau a Thelerau hyn yn effeithio eich hawliau stadudol |